Apêl brys gan St John Ambulance Cymru
Mae hwn yn apêl brys gan St John Ambulance Cymru
Mae COVID-19 yn parhau i achosi dinistr ledled Cymru ond rydym ni'n gweithio ddydd a nos i roi cymorth yng nghalon cymunedau Cymru, o Ynys Môn i'r Barri.
Rydym ni'n hyfforddi ac yn arfogi ein gwirfoddolwyr i ddelio ag argyfyngau meddygol ar unrhyw adeg, ond mae'r pandemig presennol yn golygu ein bod ni'n gwneud mwy nag erioed! Rydym ni'n dysgu sgiliau newydd i’n staff er mwyn darparu rhagor o gefnogaeth well i'r GIG a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ac mae pobl ar draws yr elusen yn addasu eu gwaith a'r ffordd maen nhw'n gwneud hynny.
Mae ein staff gweithredol a'n gwirfoddolwyr ar flaen y gad, ac maent yn rhoi eu hunain ar y rheng flaen heb feddwl eilwaith fel y gallant gefnogi pobl yng Nghymru. Maen nhw'n darparu gofal brys ac ymateb hanfodol gan ambiwlansys i bobl anghenus mewn cymunedau a lleoliadau gofal iechyd, gan gynnwys ysbytai maes yng Nghymru.
Ond yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn pan fydd ein pobl yn camu i'r adwy, rydym ni fel elusen yn wynebu cyfnod gwirioneddol heriol: Nid yw ein gweithwyr codi arian yn gallu casglu mewn archfarchnadoedd bellach, rydym wedi gohirio cyrsiau cymorth cyntaf ac yn gweld digwyddiadau, sy'n creu'r cyllid sydd ei angen arnom i hyfforddi a pharatoi ein pobl, a gwneud ein gwaith achub bywyd, yn cael eu canslo.
Mae ein cefnogwyr wedi ein helpu i hyfforddi dros 17,000 o bobl yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i achub bywyd, ac yn gofalu am dros 30,000 oedd angen cymorth cyntaf neu daith ambiwlans y llynedd yn unig. Ond yn awr mae'n rhaid i ni wneud mwy, a chynyddu ein ymatebion meddygol ledled Cymru.
Dyna pam rydym yn gwneud yr apêl frys hon am roddion er mwyn ein helpu i barhau â'n gwaith a gwneud mwy yn ystod y pandemig hwn ac ar ôl hynny.
Ni allwn ddweud yn sicr pa mor hir fydd hi cyn i'n sefyllfa ni wella. Cyfrannwch heddiw a gallwch ein helpu i fod yno ar gyfer y dyfodol, yn barod i ymateb mewn unrhyw argyfwng, a’n galluogi i gynllunio ar gyfer unrhyw sefyllfa yn hyderus.
Byddwn yno pan fydd angen, ond rydym yn gofyn yn garedig... allwch chi fod yno i ni?